William Williams (1717–1791).
Bryn Calfaria, William Owen, 1852 (🔊 pdf nwc).
Cymer, Iesu, fi fel’ rydwyf,
Fyth ni allaf fod yn well;
Dallu di am gwna yn agos,
Fewyllys i yw mynd ymhell
Yn, dy glwyfau, yn dy glwyfau,
Bydda’i’n unig fyth yn iach,
Bydda’i’n unig fyth yn iach.
Mi ddiffygiais deithior crastir
Dyrys anial wrthyf f’hun
Ac mi fethais â choncwerio
O’m gelynion lleiaf un
Mae dy enw, Mae dy enw, Mae dy enw
’N able i beri i’r cryfaf ffoi,
’N able i beri i’r cryfaf ffoi.
Gwaed y Groes sy’n codi i fyny,
’Reiddil yn goncwerwr mawr:
Gwaed dy Groes sydd yn darostwng,
Cewri cedyrn fyrdd i lawr.
Gad im deimlo, Gad im deilo, Gad im deimlo
Awel O Galfaria fryn,
Awel O Galfaria fryn.
Ymddiriedaf yn dy allu,
Mawr yw’r gwaith a wnest erioed;
Ti gest angeu, Ti gest uffern,
Ti gest Satan dan dy droed.
Pen Calfaria, Pen Calfaria, Pen Calfaria,
Nac aed hwnw byth om cof,
Nac aed hwnw byth om cof.