Trannoeth gwelodd Iesu’n dod tuag ato, a dywedodd, Dyma Oen Duw, sy’n cymryd ymaith bechod y byd!@John 1:29

Thomas Levi (1825–1916).

D. Lloyd Evans (🔊 pdf nwc).

Fel, fel yr wyf, ’nawr atat Ti
Heb ble ond aberth Calfari,
A’th fod yn galw arnaf fi,
O ddwyfol Oen! ’r wy’n dod.

Fel, fel yr wyf, heb oed’in hwy
I geisio’n ofer wella ’nghlwy’,
Ond atat Ti all wella mwy,
O ddwyfol Oen! ’r wy’n dod.

Fel, fel yr wyf, â’m heuog fron,
Yn derfysg drwyddi, fel y don,
Yn ofni suddo’r funud hon,
O ddwyfol Oen! ’r wy’n dod.

Fel, fel yr wyf, yn ddal, yn dlawd,
Y truenusaf un a ga’w’d,
Gan ddisgwyl ynot Ti gael Brawd,
O ddwyfol Oen! ’r wy’n dod.

Fel, fel yr wyf, mae’th gariad mawr,
Yn torri ’r rhwystrau oll i lawr;
’Gael bod yn eiddot byth yn awr,
O ddwyfol Oen! ’r wy’n dod.