Ac mi a welais y meirw, fychain a mawrion, yn sefyll gerbron Duw; a’r llyfrau a agorwyd: a llyfr arall a agorwyd, yr hwn yw llyfr y bywyd: a barnwyd y meirw wrth y pethau oedd wedi eu hysgrifennu yn y llyfrau, yn ôl eu gweithredoedd.@Datguddiad 20:12

Will­iam Will­iams (1717–1791).

Bryniau Cassia, hen alaw (🔊 pdf nwc).

portread
William Williams (1717–1791)

O flaen y fainc rhaid sefyll,
Ië, sefyll cyn b’o hir;
Nid oes a’m nertha yno
Ond Dy gyfiawnder pur:
Myfi anturia’n ëon
Trwy ddyfroedd a thrwy dân,
Heb oleu ac heb lewyrch,
Ond Dy gyfiawnder glân.
Glân, glân,
Ond Dy gyfiawnder glân;
Heb oleu ac heb lewyrch,
Ond Dy gyfiawnder glân.

Ni fuasai genyf obaith
Am ddim ond fflamau syth,
Y pryf nad yw yn marw,
A’r t’w’llwch dudew byth,
Oni buasai i’r Hwn a hoeliwyd
Ar fynydd Calfari,
O ryw anfeidrol gariad,
I gofio am danaf fi.
Fi! fi!
I gofio am danaf fi.
O ryw anfeidrol gariad,
I gofio am danaf fi.