Yn y dyfroedd mawr a’r tonnau,
Nid oes neb a ddeil fy mhen
Ond fy annwyl Briod Iesu,
A fu farw ar y pren:
Cyfaill yw yn afon angau,
Ddeil fy mhen i uwch y don;
Golwg arno wna i mi ganu
Yn yr afon ddofon hon.
O! anfeidrol rym y cariad,
Anorchfygol ydyw’r gras;
Digyfnewid yw’r addewid,
A bery byth o hyn i maes;
Hon yw f’angor ar y cefnfor,
Na chyfnewid meddwl Duw;
Fe addawodd na chawn farw,
Yng nghlwyfau’r
Oen y cawn i fyw.