Oblegid yr Arglwydd ei hun a ddisgyn o’r nef gyda bloedd, â llef yr archangel, ac ag utgorn Duw: a’r meirw yng Nghrist a gyfodant yn gyntaf: 17 Yna ninnau’r rhai byw, y rhai a adawyd, a gipir i fyny gyda hwynt yn y cymylau, i gyfarfod â’r Arglwydd yn yr awyr: ac felly y byddwn yn wastadol gyda’r Arglwydd.@Thesaloniaid 4:16-17

1,3: cyf. Robert Davies (Bardd Nantglyn) (1769-1835). 2: Anhysbys. 4: cyf. Hugh Hughes (Gethin) (?-1867). 5: Anhysbys.

Dies Irae (Parry), Joseph Parry (1841-1903) (🔊 pdf nwc).

portread
Joseph Parry (1841-1903)

Dduw mawr, pa beth a welaf draw?
Diwedd a braw i’r hollfyd!
Mi wela’r Barnwr yn nesáu
Ar glaer gymylau tanllyd;
Yr utgorn mawr yn seinio sydd,
Y meirw ddaw i gyd yn rhydd,
I wae, neu ddydd o wynfyd.

Ac wrth y floedd, y meirw yng Nghrist
Yn gyntaf a gyfodant;
I gwrdd â’u Harglwydd fry uwchen
Yn llawen yr esgynnant;
Ei bresenoldeb dwyfol sydd
Yn tro eu nos yn fythol ddydd,
A’u gobaith prudd yn fwyniant.

O’i flaen y daw’r annuwiol rai,
I ing a gwae tragwyddol;
Eu dagrau a’u gweddïau dwys
Sy’n awr yn aneffeithio;
Er ofnau fyrdd, rhaid mynd ymlaen,
I gwrdd â’r Duw sy’n ysol dân,
O flaen yr orsedd farnol.

O Farnwr cyfiawn, gwrando’n cri,
Sydd mewn trueni’n gorwedd;
O’th nerthol ras tosturia di,
A dod i ni drugaredd;
O fewn y noddfa, caffer ni,
Agorwyd gynt ar Galfari,
Cyn delo dydd dialedd.

Dydd gras yw’n awr, dydd yw i ni
I ffoi rhag llid i ddyfod;
Mae eto le, trwy’r Iesu hael,
I ni â Duw gael cymmod:
Awn ato Fe, cawn eto fyw,
Boed iddo glod, dydd cymmod yw,
O brysiwn i’w gyfarfod.