Morgan Rhys (1716–1779).
John Roberts, 1839 (🔊 pdf nwc).
O gariad! O gariad!
Anfeidrol ei faint,
Fod llwch mor annheilwng
Yn cael y fath fraint;
Cael heddwch cydwybod,
A’i chlirio trwy’r gwaed,
A chorff farwolaeth,
Sef llygredd, dan draed.
Nis gallai holl ddyf roedd
Y moroedd i gyd
Byth olchi anwiredd
Fy nghalon mewn pryd;
Ond ffynnon Calfaria
A’i purra’n ddiboen;
Rhyfeddol yw rhinwedd
Marwolaeth yr Oen.
Mae’r Jiwbil dragwyddol
Yn awr wrth y drws,
Fe gododd yr heulwen,
Ni gawson y tlws;
Daw gogledd a dwyrain,
Gorllewin a de,
Yn lluoedd i foli tywsog y ne’!