O Arglwydd, gwareda fi oddi wrth fy ngelynion, oherwydd atat ti yr wyf wedi ffoi am gysgod.@Salm 143:9

James G. Deck, 1842 (O Lamb of God, Still Keep Me); Roger Edwards (1811–1886).

Pen yr Yrfa, hen alaw Gymraeg (🔊 pdf nwc).

portread
James G. Deck (1807–1884)

Pa le, pa fodd dechreuaf
Foliannu’r Iesu mawr?
Olrheinio’i ras ni fedraf;
Mae’n llenwi nef a llawr;
Anfeidrol ydyw’r Ceidwad,
A’i holl drysora’un llawn;
Diderfyn yw ei gariad,
Difesur yw ei ddawn.

Trugaredd a gwirionedd
Yng Nghrist sy ’nawr yn un,
Cyfiawnder a thangnefedd
Ynghyd am gadw dyn;
Am Grist a’i ddioddefiadau
Rhinweddau marwol glwy’
Y seinir pêr ganiadau
I dragwyddoldeb mwy.

O! diolch am Gyfryngwr
Gwaredwr cryf i’r gwan;
O! am gael ei adnabod
Fy Mhriod i a’m Rhan;
Fy ngwisgo â’i gyfiawnder
Yn hardd gerbron Y Tad;
A derbyn o’i gyfiawnder,
Wrth deithio’r anial wlad.