Yn ardal Bethlehem roedd bugeiliaid allan drwy’r nos yn yr awyr agored yn gofalu am eu defaid. Yn sydyn dyma nhw’n gweld un o angylion yr Arglwydd, ac roedd ysblander yr Arglwydd fel golau llachar o’u cwmpas nhw. Roedden nhw wedi dychryn am eu bywydau.@Luc 2:8–9
portread
Josef Mohr (1792–1848)

Jo­sef Mohr, cir­ca 1816–1818 (Stille Nacht); .

Franz X. Gru­ber, cir­ca 1820 (🔊 pdf nwc).

portread
Franz X. Gruber
(1787–1863)

Tawel nos dros y byd,
Sanctaidd nos gylch y crud;
Gwylion dirion yr oedd addfwyn ddau,
Faban Duw gyda’r llygaid bach cau,
Iesu T’wysog ein hedd.

Sanctaidd nos gyda’i ser;
Mantell fwyn, cariad per
Mintai’r bugail yn dod i fwynhau
Baban Duw gyda’r llygaid bach cau,
Iesu T’wysog ein hedd.

Tawel nos, Duw ei Hun
Ar y llawr gyda dyn;
Cerddi’r engyl, a’r Ne’n trugarhau;
Baban Duw gyda’r llygaid bach cau,
Iesu, T’wysog ein hedd.